WIR 05

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon | Wales-Ireland relations

Ymateb gan: Cyngor Sir Benfro| Response from: Pembrokeshire County Council PUBLIC / CYHOEDDUS

Cyflwyniad

1.    Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o gael y cyfle i ymateb i’r Ymchwiliad hwn, gan fod gennym hanes cadarn o weithio gyda llywodraeth leol a sefydliadau eraill yn Iwerddon er budd y ddwy wlad. Mae’r cyngor yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i tua 125,000 o bobl sy’n byw yn Sir Benfro, a llawer mwy sy’n ymweld â’n sir.

2.    Mae ein gwasanaethau’n cynnwys gweithgarwch i hybu economi Sir Benfro, sgiliau a chyfleoedd bywyd ein pobl ifanc, ein treftadaeth ddiwylliannol, a’n hamgylchedd. Ym mhob un o’r meysydd hyn, rydym wedi cydweithredu ac wedi elwa ar weithio gyda’n cydweithwyr yn Iwerddon. Nod ein hymdrechion yn hyn o beth yw nid yn unig gwella sefyllfa Sir Benfro heddiw ond gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol gwell.

3.    Oherwydd ein lleoliad, cyfleoedd busnes a chysylltiadau trafnidiaeth drwy Ddoc Penfro ac Abergwaun, ac er gwaethaf Brexit, erys Iwerddon yn bwysig i Sir Benfro.

Cysylltiadau Cymru-Iwerddon ar ôl Brexit

4.    Tra bod gan Gyngor Sir Penfro drefniant gefeillio gyda Chyngor Contae Loch Garman, a bod dinas Tyddewi wedi’i gefeillio â Nás na Ríogh, Contae Chill Dara, mae’r rhan fwyaf o’r cydweithio sydd wedi digwydd rhwng Cyngor Sir Penfro ac Iwerddon ers 1996 wedi bod o ganlyniad yr amrywiol raglenni “Interreg” Iwerddon Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae Coleg Sir Benfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a Fforwm Arfordirol Sir Benfro hefyd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni hyn.

5.    Un canlyniad o Brexit felly fu colli rhan fwyaf arwyddocaol y seilwaith a gefnogodd y cydweithio cyfoethog a fu rhwng Cymru a de ddwyrain Iwerddon rhwng 1996 a 2020. Hyd yn hyn, nid oes dim byd sylweddol wedi’i roi ar waith i gymryd ei le ar lefel weithredol. O ganlyniad, wrth i raglen Iwerddon-Cymru 2014-2020 ddod i ben (bydd y prosiectau terfynol yn cael eu cwblhau eleni) mae risg, neu hyd yn oed tebygolrwydd, y bydd llawer o’r cydberthnasau sydd wedi’u sefydlu rhwng sefydliadau Cymreig a Gwyddelig trwy’r rhaglen yn dod i ben.

6.    Mae Llywodraeth Cymru, er clod iddi, wedi ceisio rhoi strwythurau amgen ar waith i gynnal cysylltiadau rhwng Cymru a’r Iwerddon, yn benodol Iwerddon-Cymru, Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 a drafodir ymhellach isod, a’r gweithgareddau sy’n deillio o hyn. Bu cyfres o symposia hefyd o dan faner Cymru Ystwyth, ac yn yr olaf, ar 24 Tachwedd 2022, cynigiwyd “Fframwaith Anffurfiol ar gyfer Cydweithredu ar draws Gofod Môr Iwerddon”. Fodd bynnag, nid yw ei statws yn glir, er enghraifft p’un a yw’n gynnig a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ac yr ymgynghorir â ni yn ei gylch cyn ei fabwysiadu, neu ai cysyniad academaidd yn unig ydyw sy’n nodi un syniad o sut y mae cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon yn gallu bodoli ar ôl Brexit.

7.    O ganlyniad, ar wahân i’r Cyd-ddatganiad, mae gwagle bellach yn y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon ac felly nid yw’n glir o gwbl sut y mae mentrau trawsffiniol yn mynd i weithio, ac eithrio ar fenter sefydliadau unigol yng Nghymru ac yn Iwerddon.

8.    Mae yna hefyd faterion sy’n ymwneud â Brexit sydd â dimensiwn Gwyddelig, ac mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i roi’r atebion angenrheidiol ar waith i leihau gwrthdaro mewn masnach drawsffiniol. Y pennaf ymhlith y rhain mae mater y Model Gweithredu Targed ar gyfer ffin Prydain Fawr, sydd â goblygiadau i swyddogaeth iechyd porthladdoedd Cyngor Sir Penfro. Gallai hwn fod yn faes lle gallai atgyfnerthu cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon helpu i weithredu cynnydd.

Y dull presennol o ymgysylltu dwyochrog rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon ac a yw’n addas i’r diben ar ôl Brexit

9.    Nid yw hwn yn fater y gall llywodraeth leol wneud sylwadau arno.

Iwerddon-Cymru, Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 fel dull o ymgysylltu rhyngwladol

10.  Credwn fod y Cyd-ddatganiad yn darparu sylfaen gref ar lefel genedlaethol ar gyfer ymgysylltu a chydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon yn y dyfodol, a gallai weithredu fel model ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, er ei fod yn darparu strwythurau ar lefel lywodraethol, mae’n methu â chynnig unrhyw gefnogaeth wirioneddol i sefydliadau Cymreig sy’n dymuno hybu cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.

11. Er enghraifft, dim ond un cyfeiriad sydd yn y Cyd-ddatganiad at awdurdodau lleol. Mae hwn yn ymddangos ar dudalen 17, ac yn datgan “Byddwn … yn mynd ati ar y cyd i nodi a hyrwyddo cysylltiadau presennol, fel trefi, ysgolion a chlybiau chwaraeon sydd wedi’u gefeillio, a chlybiau chwaraeon, trwy gyfeirio cymunedau â diddordeb at gymorth priodol gan awdurdodau lleol a chymorth o fath arall.”

12.  Ni all Cyngor Sir Penfro gynnig y gefnogaeth y mae’r ymrwymiad hwn yn ei awgrymu. Nid yw’r Awdurdod yn darparu cymorth i gymdeithasau gefeillio er enghraifft, oherwydd nid oes gennym y capasiti na’r ddarpariaeth gyllidebol i wneud hynny. Felly, nid oes unrhyw sylwedd i’r ymrwymiad a roddir i sefydliadau lleol sydd â diddordeb mewn cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon yn y Cyd-ddatganiad.

Ariannu prosiectau cydweithredu a chydweithio yn y dyfodol rhwng Cymru ac Iwerddon

13.  Y prif gyfle ariannu yr ydym yn ymwybodol ohono yw drwy raglen Cymru Ystwyth, ac mae hyn wedi’i gyfyngu i £5,000 at ddiben hwyluso gweithgarwch sy’n meithrin partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithrediad. Ein dealltwriaeth o’r rhaglen yw ei bod yn bennaf i helpu i sefydlu cysylltiadau newydd, yn hytrach na chynnal cysylltiadau sy’n bodoli eisoes. Ar ôl colli Rhaglen Drawsffiniol Iwerddon-Cymru yr UE, a rhoi’r partneriaethau a gynhaliodd mewn perygl, rydym yn cwestiynu ai dyma’r ffocws cywir ar gyfer Cymru Ystwyth.

14.  Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw gyllid sydd ar gael yn hawdd i ddatblygu cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon y tu hwnt i’r cam ffurfio partneriaeth. Roedd y Symposiwm ar 24 Tachwedd y cyfeiriwyd ato uchod yn cynnwys cyflwyniad i raglen PEACEPLUS 2021-2028 yr UE, sydd â’r bwriad o hybu a chryfhau’r broses heddwch a chymod yng Ngogledd Iwerddon a siroedd gororau’r Iwerddon. Deallwn fod posibilrwydd y gallai’r rhaglen hon ariannu gweithgareddau cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon, ar yr amod bod budd y gweithgareddau hyn yn grynoëdig i faes y rhaglen PEACEPLUS, a’u bod yn gyson â chwmpas y rhaglen.

15.  Er y gallai hyn gynnig cyfle i Gymru gyfrannu at broses heddwch Iwerddon a Gogledd Iwerddon, mae’n gyfyng iawn o ran ariannu gweithgarwch trawsffiniol a allai fod o fudd i Gymru.

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer cydweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon

16. Nodwn fod y Cyd-ddatganiad yn cynnwys ymrwymiad i “Cefnogi a hyrwyddo blaenoriaethau polisi ein cysylltiad cyffredin â sectorau gwaith y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sef cynllunio gofodol cydweithredol; y diwydiannau creadigol; iaith; cynhwysiant digidol; y blynyddoedd cynnar; ynni; yr amgylchedd; tai; camddefnyddio sylweddau; cynhwysiant cymdeithasol a thrafnidiaeth.” Yr unig un o’r rhain sy’n ymddangos yn anghydnaws yw tai, nad ydym yn gweld fod ganddo ddimensiwn trawsffiniol, o leiaf nid lle mae ffin forol rhwng dwy wlad.

17.  Tair blaenoriaeth Rhaglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru 2014-2020 oedd Arloesi Trawsffiniol; Addasu Môr Iwerddon a Chymunedau’r Arfordir i Newid Hinsawdd; ac Adnoddau Diwylliannol a Naturiol a Threftadaeth.

18.  Roedd y Fframwaith Anffurfiol ar gyfer Cydweithredu ar draws Gofod Môr Iwerddon a gynigiwyd yn y Symposiwm ar 24 Tachwedd 2022 yn seiliedig ar dair blaenoriaeth, sef annog Arloesedd ar draws Gwyddorau Bywyd; Twf Glas Cynaliadwy; a Chymunedau a Diwylliant. Hysbyswyd y Symposiwm bod y rhain wedi’u nodi ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

19.  Mae elfennau sylweddol yn gyffredin rhwng y tri asesiad hyn o’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer cydweithredu. Rydym o’r farn y gall cydweithredu gael ei strwythuro’n ddefnyddiol o gwmpas blaenoriaethau’r Fframwaith Anffurfiol, h.y. Arloesedd (ni fyddem yn nodi gwyddorau bywyd yn benodol gan y gellir dehongli hynny fel rhoi mwy o bwysau i’r ddisgyblaeth honno nag eraill), Twf Glas Cynaliadwy, a Chymunedau a Diwylliant.

Cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau seneddol rhwng y Senedd a’r Oireachtas

20.  Nid yw hwn yn fater sy’n ymwneud yn uniongyrchol â llywodraeth leol Cymru.

21.  Rydym yn nodi bod mater datblygiad cynaliadwy yn ganolog i’r Cyd-ddatganiad . Dylai’r nod a’r her o sicrhau sero net erbyn 2050 yng Nghymru ac Iwerddon fel ei gilydd roi digon o gyfle i seneddwyr y ddwy wlad drafod.